#DarganfodGwyr!
Mae ein canolfannau gweithgareddau yn Rhosili a Phorth Einon yn cynnig llety gwych i brofi’r hyn sydd gan Benrhyn Gwyr i’w gynnig, heb son am olygfeydd gogoneddus y mae’n rhaid eu gweld i’w gwerthfawrogi.
Am dros 40 o flynyddoedd, rydym wedi bod yn darparu gweithgareddau, digwyddiadau ac addysg ac rydym yn ymfalchio yn y profiadau a’r atgofion rydym wedi helpu i’w creu.
Boed hynny’n syrffio, yn ddringo creigiau, yn gaiacio neu’n ddianc am ychydig er mwyn ymlacio a mwynhau’r golygfeydd, mae gennym rywbeth at ddant pawb.
Rydym yn gweithio gydag ysgolion a cholegau er mwyn darparu rhaglenni preswyl wythnos a hanner wythnos, yn ogystal a chreu gwyliau gweithgareddau wedi’u teilwra i grwpiau, teuluoedd, ac unrhyw un sydd am brofi ein Hardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Edrychwyn ymlaen at eich croesawu!
Cysylltu a ni
Ein llysgennad Lowri Morgan
Ein staff
Gŵyr
This post is also available in: English (English)