Enwyd Lowri Morgan fel y llysgennad dros wasanaeth gweithgareddau awyr agored Cyngor Abertawe sy’n denu miloedd o bobl bob blwyddyn i fwynhau’r awyr agored.
Mae Lowri, sy’n gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Gŵyr, wedi cymryd rhan mewn sawl marathon eithafol gan gynnwys Marathon yr Arctig 6633 sy’n 350 o filltiroedd a Marathon y Jwngl sy’n cynnwys llwybr 230 milltir trwy goedwig law’r Amason.
Fel rhan o’i rôl newydd â gwasanaeth gweithgareddau awyr agored y cyngor ym mhenrhyn Gŵyr, bydd Lowri’n helpu i hyrwyddo digwyddiadau a chefnogi gweithgareddau gan gynnwys dringo, heicio, crefft y goedwig, cerdded bryniau, cerdded ceunentydd, syrffio, arfordiro a chaiacio.
Meddai Lowri, “Rwyf wrth fy modd i fod yn llysgennad ar gyfer gwasanaeth gweithgareddau awyr agored y cyngor ar benrhyn Gŵyr, yn enwedig gan mai Gŵyr wnaeth fy nghyflwyno i’r byd o anturiaethau yn y lle cyntaf.
“Rwyf hefyd yn frwdfrydig am ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i fwynhau’r awyr agored, felly mae’n anrhydedd fy mod yn gallu chwarae rhan fach wrth helpu i gyflawni hyn yn Abertawe sef fy ninas enedigol.”
Gan ddefnyddio’r enw ‘Mae’n Amser Gŵyr’, mae Lowri hefyd yn siarad mewn fideo hyrwyddol newydd i Ganolfannau Gweithgareddau Gŵyr.
This post is also available in: English (English)