Mae Canolfannau Gweithgareddau Gwyr wedi bod yn cynnig anturiaethau awyr agored ar draws Gŵyr a’r cyffiniau am dros 30 mlynedd ac mae ganddynt yr arbenigedd i roi’r profiad antur gorau posib i chi pryd bynnag rydych yn penderfynu ei bod hi’n amser #DarganfodGwyr.
Rydym yn cynnig y cyfle i brofi amrywiaeth o weithgareddau sydd wedi’u dylunio i fod yn ddiogel, yn heriol ac yn hwyl ar Benrhyn Gŵyr. Mae gan ein tim dysgu a hyfforddi profiadol arbenigedd mewn gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion. Gellir profi ein gweithgareddau fel rhan o ymweliad preswyl neu drwy drefnu sesiynau gweithareddau unigol.
Rydym yn cynnig:
- Hyfforddwyr sydd wedi’u hachredu gan gorff llywodraethu cenedlaethol
- Cymarebau 1-12 rhwng hyfforddwyr a chyfranogwyr
- Yr holl hyfforddiant a chyfarpar
- Lleoedd am ddim i athrawon/arweinwyr grwp
- Gweithgareddau yn unig – nid oes rhaid i chi aros yn ein canolfannau i brofi’r gweithgareddau rydym yn eu cynnig
- Cludiant – gallem eich cludo i’r gweithgaredd ac oddi yno, neu gwrdd a chi yno, beth bynnag sy’n gyfleus i chi
- Fforddadwyedd – mae ein pris, sef £45 y person am unrhyw weithgaredd a gynigir, yn gystadleuol iawn
- Diogelwch – mae Canolfannau Gweithgareddau Gŵyr yn gweithredu dan drwydded a roddir gan yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur a cheir adolygiadau blynyddol
- Cyfleuster – mae’n hawdd cadw lle ar weithgareddau drwy e-bostio canolfannaugweithgareddaugwyr@abertawe.gov.uk neu ffonio 01792 390481
- Cyfarpar cyfoes – caiff ein rhestr offer ei diweddaru bob blwyddyn ac mae ein cwsmeriaid a’u profiad cyffredinol yn elwa o ddefnyddio cyfarpar cyfredol.
Ar y tir
Boed ar glogwyni môr, mewn coedwigoedd canoloesol neu ar fryniau tonnog, mae gennym amrywiaeth gwych o weithgareddau ‘ar y tir’ i chi fwynhau eich ymweliad â ni i’r eithaf.
Ar y dwr
Boed ar draethau enwog penrhyn Gŵyr, neu mewn afonydd a llynnoedd lleol, mae gennym amrywiaeth gwych o weithgareddau ‘ar y dŵr’ i chi fwynhau eich ymweliad â ni i’r eithaf.
This post is also available in: English (English)