Arfordiro am £45 yn unig
Mae isafswm niferoedd a diwrnod y gweithgaredd yn berthnasol.
Mae arfordir deheuol Gŵyr yn cael ei alw’n ‘arfordir y llongddryllwyr’; mae ganddo hanes sydd cyhyd a llysywod pendwll, yn llawn cymeriadau sydd ddwywaith mor llithrig. Dysgwch am for-lardon yn y ffordd fwyaf difyr posib, drwy roi cynnig at arfordiro!
Beth mae hyn yn ei gynnwys?
Gydag ogofau cudd a grisiau dirgel, dyma daith arfordiro llawn adrenalin hynod ddiddorol. Rhaid i unrhyw ymwelydd anturus a Gŵyr nofio, sgrafangu a neidio drwy ein golygfeydd gwefreiddiol. Dyma weithgaredd na fyddwch yn ei anghofio mewn lleoliad na fyddwch yn ei gredu.
A yw hyn yn addas i fi?
Mae arfordiro’n addas i’r rhan fwyaf o bobl a gellir ei addasu i bob gallu. Mae ein hoffer arnofio personol yn ysgafn ac yn hawdd eu cludo a byddant yn sicrhau bod padlo a nofio’n bleser, ac mae ein siwtiau dwr cyfoes yn defnyddio’r deunyddiau gorau i’ch cadw yn y dwr am hwy.
Cewch ychydig o amser i wisgo a chyrraedd y lleoliad ac yna rydym yn caniatau i chi dreulio cyn lleied, neu gymaint, o amser ag y bydd ei angen arnoch i neidio, nofio a thynnu ffotograffau o’ch hun – mae’r golygfeydd yn anhygoel.
Beth bydd ei angen arnaf?
- Dillad cynnes
- Hen drenyrs
- Top dwrglos
- Dillad nofio
- Trowsus nofio (y tu allan i’ch siwt dwr)
- Tywel
- Diod
- Meddyginiaeth, e.e. eli haul, pwmp asthma
- Pecyn cinio (yn ddibynnol at gynlluniau’r diwrnod)
Rydym yn darparu
- Yr holl gyfarpar arfordiro
- Siwtiau dwr
- Yr holl gyfarpar diogelwch
A allaf gael mwy nag un wers?
Gallwch. Gallech drefnu bloc o 4 gwers a fydd yn eich galluogi i brofi amrywiaeth o fannau arfordiro a chymryd rhan wrth arwain rhai o’ch sesiynau olaf (mae’r pris fesul gwers yn gostwng i £30 pan fyddwch yn prynu 4 gwers).
This post is also available in: English (English)