Gwersi caiacio am £45 yn unig
Mae isafswm niferoedd a diwrnod y gweithgaredd yn berthnasol, felly cysylltwch a ni.
Os nad ydych wedi bod mewn caiac o’r blaen, neu os rydych am fireinio eich sgiliau er mwyn i chi allu pysgot yr haf hwn, mae gennym rywbeth i chi. I’r rhai sy’n gweithio tuag at asesiad seren Undeb Canwio Prydain, yna mae gennym y diwrnod perffaith i chi gan fod ein hyfforddwyr profiadol yn cynnig llu o gemau, syniadau a chyngor.
Beth mae hyn yn ei gynnwys?
Mae caiacio’n ffordd ddifyr a chyffrous o fynd allan ar y dwr; bydd ein hyfforddwyr arbenigol yn eich dysgu i ddefnyddio techngau padlo gwych, p’un a ydych yn chwilio am daith afon neu gyfle i chwarae ar hyd arfordir hardd Gŵyr.
A yw hyn yn addas i fi?
Mae caiacio’n addas i’r rhan fwyaf o bobl a gellir ei addasu i bob gallu. Mae ein hamrywiaeth o gaiacau a thwll eistedd neu rai lle rydych yn eistedd ar ben y caiac yn ffordd ddiogel o ddysgu, ac mae ein siwtiau dwr cyfoes yn defnyddio’r deunyddiau gorau i’ch cadw yn y dwr am hwy.
Cewch ychydig o amser i wisgo a chyrraedd y lleoliad ac yna rydym yn caniatau i chi dreulio cyn lleied, neu gymaint, o amser ag y bydd ei angen arnoch i archwilio a dysgu sgiliau newydd.
Beth bydd ei angen arnaf?
- Dillad cynnes
- Hen drenyrs
- Top dwrglos
- Dillad nofio
- Tywel
- Diod
- Meddyginiaeth, e.e. eli haul, pwmp asthma
- Pecyn cinio (yn ddibynnol ar gynlluniau’r diwrnod)
Rydym yn darparu
- Yr holl gyfarpar caiacio
- Siwtiau dwr
- Yr holl gyfarpar diogelwch
A allaf gael mwy nag un wers?
Gallwch. Gallech drefnu bloc o 4 gwers a fydd yn eich helpu i ddysgu hyd yn oed yn gynt a dechrau symud ymlaen i sgiliau canolradd (mae’r pris fesul gwers yn gostwg i £40 pan fyddwch yn prynu 4 gwers).
This post is also available in: English (English)