Corff-fyrddio am £45 yn unig
Mae isafswm niferoedd a diwrnod y gweithgaredd yn berthnasol, felly cysylltwch a ni.
Ar gopa penrhyn sy’n enwog am draethau o’r radd flaenaf, dysgu sut i syrffio tonnau gyda’ch ffrindiau a’ch teulu gyda hyfforddiant arbenigol fyddai uchafbwynt gwyliau unrhyw un.
Beth mae hyn yn ei gynnwys?
Mae corff-fyrddio’n weithgaredd difyr sy’n eich galluogi i ddechrau syrffio tonau ar unwaith. Mae’n wych fel modd o gyflwyno chwaraeon dwr i bobl ifanc, neu fel dewis arall ar gyfer y rhai sydd eisoes wedi rhoi cynnig ar syrffio ac sydd am roi cynnig ar y gweithgaredd gorau o ran chwarae ar donnau. Gofynnwch i’n hyfforddwyr ac efallai y byddant yn llwyddo i dynnu ffotograff ohonoch ar don.
A yw hyn yn addas i fi?
Mae corff-fyrddio’n addas i’r rhan fwyaf o bobl ac rydym yn dwlu ar annog pob person posib i fynd i’r dwr. Mae ein byrddau’n gyfoes ac yn nofiadwy ac fe’u dylunnir i’ch helpu i wella ac mae ein siwtiau dwr cyfoes yn defnyddio’r deunyddiau gorau i’ch cadw yn y dwr am hwy.
Cewch ychydig o amser i wisgo a chyrraedd y lleoliad ac yna rydym yn caniatau i chi dreulio cyn lleied, neu gyhyd, o amser ag y bydd ei anen arnoch yn y dwr, gyda llawer o amser i orffwys cyn rhoi cynnig arall arno.
Beth bydd ei angen arnaf?
- Dillad cynnes
- Hen drenyrs
- Top dwrglos
- Dillad nofio
- Tywel
- Diod
- Meddyginiaeth e.e. eli haul, pwmp asthma
- Pecyn cinio (yn ddibynnol ar gynlluniau’r diwrnod)
Rydym yn darparu
- Yr holl gyfarpar gorff-fyrddio
- Siwtiau dwr
- Yr holl gyfarpar diogelwch
A allaf gael mwy nag un wers?
Gallwch. Gallech drefnu bloc o 4 gwers a fydd yn eich helpu i ddysgu hyd yn oed yn gynt a dechrau symud ymlaen i sgiliau canolradd (mae’r pris fesul gwers yn gostwng i £30 pan fyddwch yn prynu 4 gwers).
This post is also available in: English (English)