Gwersi SUP am £45 yn unig
Mae isafswm niferoedd a diwrnod y gweithgaredd yn berthnasol.
Mae padlo bwrdd at draed neu SUP yn in o’r chwaraeon sy’n tyfu gyflymaf yn y byd, o hwylio’n hamddenol at lynnoedd ac afonydd a phadlo dwr gwastad i syrffio tonnau.
Beth mae hyn yn ei gynnwys?
Mae padlo bwrdd at draed yn hawdd ei ddysgu ac yn agored i bawb – mae padlo at y bwrdd yn llawer o hwyl ynddo ei hun. Gyda phadlo bwrdd at draed, gallwch deithio cryn bellteroedd yn gymharol hawdd a dyma ffordd wych o ddarganfod ein morlin anhygoel a hardd. Mae’n wych o ran gwella cydbwysedd a chryfder craidd, ac mae hefyd yn cynnig y cyfle i dynnu rhai ffotograffau bendigedig o’ch gwyliau.
A yw hyn yn addas i fi?
Mae padlo bwrdd yn addas i’r rhan fwyaf o bobl ac rydym yn dwlu at annog pob person posib i fynd i’r dwr. Mae ein byrddau padlo chwyddadwy’n ysgafin ac yn hawdd eu cludo ac fe’u dylunnir i’ch helpu i wella, ac mae ein siwtiau dwr cyfoes yn defnyddio’r deunyddiau gorau i’ch cadw yn y dwr am hwy.
Cewch ychydig o amser i wisgo a chyrraedd y lleoliad ac yna rydym yn caniatau i chi dreulio cyn lleied, neu gyhyd, o amser ag y bydd ei angen arnoch yn y dwr, gyda llawer o amser i orffwys cyn rhoi cynnig arall arno.
Beth bydd ei angen arnaf?
- Dillad cynnes
- Hen drenyrs
- Top dwrglos
- Dillad nofio
- Tywel
- Diod
- Meddyginiaeth e.e. eli haul, pwmp asthma
- Pecyn cinio (yn ddibynnol at gynlluniau’r diwrnod)
Rydym yn darparu
- Yr holl offer SUP
- Siwtiau dwr
- Yr holl gyfarpar diogelwch
A allaf gael mwy nag un wers?
Gallwch. Gallech drefnu bloc o 4 gwers a fydd yn eich helpu i ddysgu hyd yn oed yn gynt a dechrau symud ymlaen i sgiliau canolradd (mae’r pris fesul gwers yn gostwng i £40 pan fyddwch yn prynu 4 gwers).
This post is also available in: English (English)