Gwersi syrffio am £45 yn unig
Mae isafswm niferoedd a diwrnod y gweithgaredd yn berthnasol, felly cysylltwch a ni.
Wrth feddwl am Benrhyn Gŵyr, rydych yn meddwl am syrffio, felly beth am ddysgu sut i syrffio gyda Chanolfannau Gweithgareddau Gŵyr? Mae ein hyfforddwyr yn adnabod traethau Gŵyr yn well nag unrhyw un ac rydym yn cynnal ein gwersi syrffio yn Rhosili, Llangynydd a Bae Caswell, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.
Beth mae hyn yn ei gynnwys?
Mae syrffio’n un o’r chwaraeon mwyaf ffasiynol sydd ar gael a bydd ein hyfforddwyr yn eich ysgogi i brofi gwefr dal ton a theithio arni. Byddant hyd yn oed yn tynnu rhai ffotograffau ohonoch yn syrffio ton os gofynnwch yn gwrtais!
A yw hyn yn addas i fi?
Mae syrffio’n addas i’r rhan fwyaf o bobl ac rydym yn dwlu ar annog pob person posib i fynd i’r dwr. Mae ein byrddau arbennig i ddysgwyr wedi’u dylunio i’ch helpu i wella ac mae ein siwtiau dwr cyfoes yn defnyddio’r deunyddiau gorau i’ch cadw yn y dwr am hwy.
Cewch ychydig o amser i wisgo a chyrraedd y lleoliad ac yna rydym yn caniatau i chi dreulio cyn lleied, neu gyhyd, o amser ag y bydd ei angen arnoch yn y dwr, gyda llawer o amser i orffwys cyn rhoi cynnig arall arno.
Beth bydd ei angen arnaf?
- Dillad cynnes
- Hen drenyrs
- Top dwrglos
- Dillad nofio
- Tywel
- Diod
- Meddyginiaeth, e.e. eli haul, pwmp asthma
- Pecyn cinio (yn ddibynnol ar gynlluniau’r diwrnod)
Rydym yn darparu
- Yr holl gyfarpar syrffio
- Siwtiau dwr
- Yr holl gyfarpar diogelwch
A allaf gael mwy nag un wers?
Gallwch. Yn ogystal a gwers unigol gyda ni, gallech gadw lle ar ein penwythnosau Dysgu Sut i Syrffio lle byddwn yn gallu datblygu eich sgiliau ychydig yn gynt. Neu gallech drefnu bloc o 4 gwers a fydd yn eich helpu i ddysgu hyd yn oed yn gynt a dechrau symud ymlaen i sgiliau canolradd (mae’r pris fesul gwers yn gostwng i £40 pan fyddwch yn prynu 4 gwers).
This post is also available in: English (English)