Sylwer y dyrennir dyddiadau ar sail y cyntaf i’r felin ac na allwn warantu y byddwch yn cael y dyddiad(au) a nodir yn y cais. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddyrannu dyddiad(au) mor agos a phosib at y dyddiadau ar eich ffurflen cadw lle.
Ffurflen caniatad rhieni
Mae’r holl drefniadau’n dibynnu ar dderbyn Ffurlen Caniatad Rhieni ar gyfer pob unigolyn sy’n cymryd rhan. Ni chynhelir ymweliad nes y bydd Canolfannau Gweithgareddau Gŵyr wedi derbyn y ffurflenni oherwydd gweithdrefnau diogelu gwell. Anfonwch y ffurflenni i gcg@abertawe.gov.uk.
Trefniadau cludiant
Yr ysgol sy’n gyfrifol am drefnu a thalu am y bws a fydd yn codi eich grwp o’r ysgol ddydd Llun am 9.30am ac yn gadael y ganolfan ddydd Gwener am 1.30pm.
Os yw’ch ysgol yn gwneud wythnos hollt, yr ysgol sy’n gyfrifol am drefnu a thalu am y bws trosglwyddo ganol yr wythnos.
Yn ystod yr wythnos, byddwn ni’n darparu’r cludiant ar gyfer y gweithgareddau rydym yn eu cynnal.
Lle
Isafswm niferoedd
Bydd isafswm niferoedd yn ei le ar gyfer y canolfannau a chodir tal disgybl llawn ar yr ysgol os nad yw’r canolfannau’n llawn.
Yr isafswm niferoedd yw:
Tŷ Borfa – 24 o ddisgyblion
Tŷ Rhossili – 12 o ddisgyblion
Yn anffodus, o ganlyniad i arweiniad yn deillio o Adolygiad Comisiynu Canolfannau Gweithgareddau Gŵyr, nid yw hyn yn agored i’w drafod a chaiff y rheol ei gorfodi, ni waeth beth fo’r amgylchiadau.
Uchafswm niferoedd
Yr uchafswm niferoedd yw:
Tŷ Borfa – 35 o blant (28 gwely + 7 matres), 4/6 o staff (4 gwely (un dwbl) + 1 matres)
Tŷ Rhossili – 22 o blant (17 gewly _ 5 matres), 3 o staff.
Ffurflenni cofnodi tal
Byddwch yn derbyn Ffurflen Cofnodi Tal gyda’ch pecyn cadarnhau. Rhaid cwblhau a dychwelyd y ffurflen hon drwy e-bost i gcg@abertawe.gov.uk ar ddiwedd eich ymweliad. Gwerthfawrogwn eich cydweithrediad yn hyn o beth oherwydd ei fod yn hollbwysig i weithredu’r canolfannau a’u cynaladwyedd.
Mae’r ffioedd ar gyfer canolfannau’r Borfa a Rhosili yn talu am arhosiad 4 noson/5 niwrnod o fore dydd Llun tan brynhawn dydd Gwener ac yn cynnwys yr holl lety prydau, byrbrydau a gweithgareddau awyr agored.
I ddisgyblion sy’n bodloni’r meini prawf angenrheidiol o ran budd-daliadau, h.y. prydau ysgol am ddim, y gost fydd am arhosiad 4 noson/5 niwrnod.
Cewch eich afonebu am gost eich arhosiad ar ol ni dderbyn eich Ffurflen Cofnodi Tal. Gofynnir i chi beidio a thalu tan i chi dderbyn eich anfoneb.
Ffioedd
Brodyr a chwiorydd
Os bydd brodyr/chwiorydd ar yr un cwrs (dydd Llun i ddydd Gwener), caniateir gostyngiad o 25% ar y gyfradd gyfredol ar gyfer pob brawd/chwaer iau.
Staff addysgu a chefnogi
Gall staff addysgu/cefnogi preswyl fynd am ddim ar y gymhared 1/10 disgybl.
Arosiadau hanner wythnos
Pecynnau 2 noson (a 3 diwrnod) yn unig yw arhosiad hanner wythnos. Gellir cyd-drafod pecynnau gwahanol. Gellir defnyddio’r rhain fel wythnos hollt gan newid y grwp yng nghanol yr wythnos neu fel pecynnau unigol.
TAW
Mae ymweliadau a’r canolfannau wedi’u heithrio o TAW ar yr amod bod yr ymweliadau’n addysgol ac yn rhan o’r cwricwlwm.
Anfonebu
Mae amodau talu o fewn 30 diwrnod yn berthnasol.
Iechyd a diogelwch
Cysylltwch a ni os oes angen copi o’n ‘Holiadur Darparwr Annibynnol’ a/neu’r ddogfen ‘Asesiad Risg i Ysgolion.’
Gweithgareddau
Er y gallwch ddewis eich gweithgareddau, bydd y penderfyniad terfynol o ran ymarferoldeb, addasrwydd y tymor a diogelwch yn nwylo Canolfannau Gweithgareddau Gŵyr. Mae’r holl weithgareddau’n amodol ar y tywydd a’r llanw. Trefnir gweithgareddau eraill mewn tywydd anffafriol.
Mae gweithgareddau gyda’r nos ar gael ar gais, yn amodol ar argaeledd staff ac a chaniatad staff y ganolfan ymlaen llaw. Codir tal ychwanegol fesul person y nos. Cysylltwch a’r Swyddfa Weinyddol am fanylion.
Dylai ysgolion sy’n cadw lle gyda ni fod yn barod i gydymffurfio a’n cod ymarfer o ran diogelu’r amgylchedd naturiol ac mae’n rhaid iddynt hefyd ddilyn cyfarwyddiadau diogelwch ein hyfforddwyr ar bob adeg. Er caiff hyfforddwyr eu dewis am eu profiad wrth arwain gweithgareddau a’u gallu i roi cyngor ar weithdrefnau diogelwch ac ymddygiad ar safle’r gweithgaredd, mae’n bwysgi cydnabod bod gan gyfranogwr ac athrawon gyfrifoldeb cyfreithiol i gymryd yr holl ragofalon rhesymol i gynnal eu diogelwch eu hunain ac i beidio a pheryglu aelodau eraill o’r grwp.
Atebolrwydd
Ni ellir derbyn cyfrifoldeb am eiddo neu gerbydau modur unrhyw ddisgybl/athro sy’n cael ei golli neu ei ddifrodi. Mae’n rhaid i ddisgyblion/athrawon barhau’n gyfrifol am eu heiddo eu hunain, gan gynnwys arian ac eitemau gwerthfawr.
Prisiau
Mae’r prisiau isod fesul disgybl am becyn dydd Llun i ddydd Gwener neu am wythnos hollt yn ystod tymor yr ysgol.
This post is also available in: English (English)