Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gydag ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid am dros 30 flynyddoedd ac mae gennym brofiad eang o roi rhaglenni ynghyd sydd wedi’u teilwra’n benodol i ddiwallu anghenion sefydliad.
Rhai o’r pecynnau sydd at gael:
Teithiau preswyl
Gan ddefnyddio’r ddwy ganolfan breswyl arbennig sydd gennym, gallwn gynnig teithiau preswyl i rhwng 10 a 50 o ddisgyblion. Fel arfer, rydym yn annog sefydliadau i ddewis cwrs preswyl wythnos o hyd er mwyn datblygu sgiliau a dealltwriaeth yn llawnach, er bod rhai sefydliadau’n dewis opsiwn wythnos hollt fel y gall dosbarthiadau mwy o faint elwa o’r cyfle.
Yn ystod taith breswyl, byddwn yn trafod yn gyson ag athrawon/arweinwyr cyn ac yn ystod y daith I wirio’r deilliannau dysgu a ddymunir ac a oes unrhyw ofynion cwricwlwm. Mae ein teithiau preswyl yn canolbwyntio at ddarparu sgiliau unigol a thim, datblygu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o’r amgylchedd cyffiniol, a sicrhau bod pawb yn mwynhau.
Mae ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid yn elwa o fod yn gymwys am arhosiad a cymhorthdal yng nghanolfannau gweithgareddau Gwyr – prisiau.
Diwrnodau gweithgareddau
Os ydych yn gweithio tuag at fodiwlau TGAU Addysg Gorfforol, Gwobr John Muir, Gwobr Dug Caeredin neu unrhyw gymhwyster arall, gallwn drefnu diwrnodau hyfforddi a datblygu ar eich cyfer. Yn yr un modd, os ydych chi’n chwilio am ddiwrnod llawn hwyl a chyffro i wobrwyo pobl ifanc a rhoi profiadau bythgofiadwy iddynt, yna Gwyr yw’r lle perffaith ar gyfer hynny.
Asesiadau safle a hyfforddiant
Weithiau mae gan sefydliadau’r holl adnoddau y mae eu hangen arnynt ar flaenau eu bysedd ond nail ai nid ydynt yn sylweddoli hynny neu meant yn rhy bryderus i ymgymryd a gweithgareddau yn yr awyr agored. Mae Canolfannau Gweithgareddau Gwyr yn cynnig gwasanaeth cynghori lle bydd aelod o’n staff yn ymweld a sefydliad ac yn datblygu cynlluniau ar gyfer sesiwn sydd wedi’i seilio ar fannau awyr agored gerllaw a chyflwyno hyfforddiant ac adnoddau i staff.
Cysylltwch a ni i drafod hyn.
This post is also available in: English (English)