Antur ar y creigiau am £45 yn unig
Mae isafswm niferoedd a diwrnod y gweithgaredd yn berthnasol.
A ydych erioed wedi meddwl am yr hyn sydd y tu hwnt i’r penrhyn nesaf? Neu beth sydd yn yr ogof honno?
Yna chi yw’r math o berson rhydym yn chwilio amdano ac mae’n hen bryd i ni fynd a chi ar antur ar y creigiau.
Beth mae hyn yn ei gynnwys?
Dewch i dreulio’r diwrnod gyda ni’n sgrafangu dros y forlin, gan fynd o gympas bwtresi a thrwy gyliau ac ogofeydd, a tharo ar ogofeydd cudd. Peidiwch a dweud straeon mor-ladron-cymerwch ran ynddynt! Mae’r gweithgaredd hwn yn wych ar gyfer dod o hyd i’ch terfynau neu fodloni eich chwilfrydedd, ac mae’n un o’r ffyrdd mwyaf difyr o ddarganfod Penrhyn Gŵyr o ddifrif.
A yw hyn yn addas i fi?
Mae anturiaethau ar y creigiau’n addas i’r rhan fwyaf o bobl a gallwn ddarparu sesiynau i gyd-fynd a gallu a phrofiad pobl. Mae ein hyfforddwyr yn meddu ar gymwysterau gan gyrff llywodraethu cenedlaethol ac mae’r Awdurdod Trwydded Gweithgareddau Antur yn archwilio ein hoffer a’n harferion bob blwyddyn.
Beth bydd ei angen arnaf?
- Trowsus tebyg i dracwisg
- Top llewys hir
- Trenyrs
- Top dwrglos
- Diod
- Meddyginiaeth, e.e. eli haul, pwmp asthma
- Pecyn cinio (yn ddibynnol ar gynlluniau’r diwrnod)
- Dillad sy’n addas i’r tywydd
Rydym yn darparu
- Yr holl gyfarpar diogelwch personol, e.e. helmedau a harneisiau
- Yr holl gyfarpar antur ar y creigiau
- Gwarbaciau bach a chyfarpar diogelwch
A allaf gael mwy nag un sesiwn?
Gallwch. Gallech drefnu bloc o 4 sesiwn a fydd yn eich galluogi i brofi amrywiaeth o anturiaethau a chymryd rhan wrth arwain rhai o’ch sesiynau olaf (mae’r pris fesul gwers yn gostwng i £40 pan fyddwch yn prynu 4 gwers).
This post is also available in: English (English)