Crefft y goedwig am £45 yn unig
Mae isafswm niferoedd a diwrnod y gweithgaredd yn berthnasol.
A fuoch erioed ar goll yn y goedwig? Buom ni ac rydym yn ei gymeradwyo’n gryf i chi, gan chwarae gemau, adeiladu llochesi, dysgu sut i lywio a thwymo malws melys. Mae’r gweithgaredd hwn yn sbarduno’r meddwl yn ogystal a’r corff, gan eich ysgogi i ddyfalu drwy’r amser ac annog undod a chydweithrediad. Hwyl a sbri i bawb!
Beth mae hyn yn ei gynnwys?
Dewch i ddysg am goedwigoedd canoloesol a’r sgiliau hynafol a ddefnyddiwyd i oroesi ynddynt. Cewch werthfawrogi’r fflora a’r ffawna a rhoi cynnig ar weld adar yn y coed. A beth am roi cynnig ar ddechrau tan heb fatsis!
A yw hyn yn addas i fi?
Mae crefft y goedwig yn addas i’r rhan fwyaf o bobl a gallwn ddarparu sesiynau i gyd-fynd a gallu a phrofiad pobl. Mae ein hyfforddwyr yn meddu ar gymwysterau gan gyrff llywodraethu cenedlaethol ac mae ganddynt gymwysterau cymorth cyntaf i sicrhau diogelwch a mwynhad cyfranogwyr.
Beth bydd ei angen arnaf?
- Trowsus tebyg i dracwisg
- Top cynnes (llewys hir)
- Menig
- Trenyrs neu esgidiau cadarn
- Siaced ddwrglos
- Diod
- Meddyginiaeth, e.e. eli haul, pwmp asthma
- Pecyn cinio (yn ddibynnol ar gynlluniau’r diwrnod)
- Dillad sy’n addas i’r tywydd
- Gwarbac bach neu sach deithio
- Het
Rydym yn darparu
- Yr holl offer cymorth cyntaf a chyfarpar
- Mapiau a chwmpawdau
- Arweinwyr crefft y goedwig
- Offer a llochesi
A allaf gael mwy nag un sesiwn?
Gallwch. Gallech drefnu bloc o 4 sesiwn a fydd yn eich galluogi i brofi amrywiaeth o weithgaredau llwyni a choetiroedd a chymryd rhan wrth arwain rhai o’ch sesiynau olaf (mae’r pris fesul gwers yn gostwng i £40 pan fyddwch yn prynu 4 gwers).
This post is also available in: English (English)