Cyfeiriannu am £45 yn unig
Mae isafswm niferoedd a diwrnod y gweithgaredd yn berthnasol, felly cysylltwch a ni.
Gyda llawer o gemau a chyrsiau gwahanol yn y coetiroedd o gwmpas Gŵyr, mae cyfeiriannu’n weithgaredd gwych ar gyfer ymgynefion a’r ardal o’ch cwmpas. Mae sgiliau llywio a darllen mapiau’n ffordd wych o archwilio bryniau tonnog a mynyddoedd de Cymru.
Mae ein sesiynau’n addas i newydd-ddyfodiaid, y rhai sy’n mireinio eu sgiliau, neu’r rhai sy’n gweithio tuag at ddyfarniadau a chymwysterau arweinyddiaeth.
Beth mae hyn yn ei gynnwys?
Mae sgiliau darllen mapiau’n eich galluogi i ddeall ac archwilio’r ardal o’ch cwmpas, gan weld lleoedd mewn modd hollol newydd. Dewch i ddysgu sut i gyfeiriannu map, cerdded ar gyfeiriant, a chynllunio cwrs yn llwyddiannus – mae’n deimlad gwych na allwch ei gael gan ap GPS.
A yw hyn yn addas i fi?
Mae cyfeiriannu’n addas i’r rhan fwyaf o bobl a gallwn ddarparu sesiynau i gyd-fynd a gallu a phrofiad pobl. Mae ein hyfforddwyr yn meddu ar gymwysterau gan gyrff llywodraethu cenedlaethol ac mae ganddynt gymwysterau cymorth cyntaf i sicrhau diogelwch a mwynhad cyfranogwyr.
Beth bydd ei angen arnaf?
- Trowsus tebyg i dracwisg
- Top cynnes (llewys hir)
- Menig
- Trenyrs neu esgidiau cadarn
- Siaced ddwrglos
- Diod
- Meddyginiaeth, e.e. eli haul, pwmp asthma
- Pecyn cinio (yn ddibynnol ar gynlluniau’r diwrnod)
- Dillad sy’n addas i’r tywydd
- Gwarbac bach neu sach deithio
- Het
A allaf gael mwy nag un sesiwn?
Gallwch. Gallech drefnu bloc o 4 sesiwn a fydd yn eich galluogi i brofi amrywiaeth o lwybrau a chymryd rhan wrth arwain rhai o’ch sesiynau olaf (mae’r pris fesul gwers yn gostwng i £40 pan fyddwch yn prynu 4).
This post is also available in: English (English)