Gwersi dringo am £45 yn unig
Mae isafswm niferoedd a diwrnod y gweithgaredd yn berthnasol.
Mae Gŵyr yn gartref i rai o draethau enwocaf y byd ac mae’r Tri Chlogwyn a Bae Rhosili wedi ennill gwobrau byd-eang am harddwch.
Mae’r clogwyni sy’n gwarchod y traethau hardd hyn yn cynnig rhai o’r profiadau dringo mwyaf amrywiol a diddorol yn y DU. Os ydych am roi cynnig ar ddringo am y tro cyntaf gyda’ch cyfeillion a’ch teulu, gwella eich sgiliau a gwaith rhaff, neu weithio tuag gymhwyster dringo, rydym yn gallu cynnig hyfforddiant a sesiynau difyr. Bydd ein tim o hyfforddwyr hynod brofiadol yn rhoi pecyn at ei gilydd a fydd yn cyd-fynd a safon ragorol y lleoliad.
Beth mae hyn yn ei gynnwys?
Mae dringo’n un o’r gweithgareddau mwyaf difyr a gwefreiddiol sydd ar gael. Rydym yn cynnal ein sesiynau ar gael. Rydym yn cynnal ein sesiynau ar glogwyni De Gŵyr, gan ychwanegu elfennau llanw er mwyn gwella’r profiad cyffredinol yn fawr. Gall ein cleientiaid weld ein ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’ o onglau na fydd y rhan fwyaf o bobl byth yn ei weld. Boed yn glogfeinio, yn sesiynau dringo, yn rhaffu uchel ac isel, neu unrhyw fath o ddringo yr hoffech roi cynnig arno, mae gennym rywbeth i chi.
A yw hyn yn addas i fi?
Mae dringo’n addas i’r rhan fwyaf o bobl a gallwn ddarparu sesiynau i gyd-fynd a gallu a phrofiad pobl. Mae in hyfforddwyr yn meddu ar gymwysterau gan gyrff llywodraethu cenedlaethol ac mae’r Awdurdod Trwydded Gweithgareddau Antur yn archwilio ein hoffer a’n harferion bob blwyddyn.
Beth bydd ei angen arnaf?
- Trowsus tebyg i dracwisg
- Top llewys hir
- Trenyrs
- Top dwrglos
- Diod
- Meddyginiaeth, e.e. eil haul, pwmp asthma
- Pecyn cinio (yn ddibynnol ar gynlluniau’r diwrnod)
- Dillad sy’n addas i’r tywydd
Rydym yn darparu
- Yr holl gyfarpar diogelwch personol, e.e. helmedau a harneisiau
- Yr holl gyfarpar dringo creigiau
- Gwarbaciau bach a chyfarpar diogelwch
A allaf gael mwy nag un wers?
Gallwch. Yn hytrach na threfnu un wers gyda ni, gallwch drefnu bloc o 4 gwers a fydd yn eich helpu i ddysgu hyd yn oed yn gynt a dechrau symud ymlaen i’r sgiliau uwch (mae’r pris fesul gwers yn gostwng i £40 pan fyddwch yn prynu 4 gwers).
This post is also available in: English (English)