Sesiynau heicio am £45 yn unig
Mae isafswm niferoedd a diwrnod y gweithgaredd yn berthnasol, felly cysylltwch a ni.
Mae Cymru’n unigryw ac mae ei thirwedd yn enwog am ei mynyddoedd a’i bryniau tonnog. Hefyd, mae llwybr arfordirol parhaus cyntaf y byd o gwmpas ei phermedr am 870 o filltiroedd llawn golygfeydd trawiadol.
Mae’n amser i chi fynd am dro!
Beth mae hyn yn ei gynnwys?
Rhowch gyfle i ni eich helpu i brofi rhai o’r ardaloedd heicio a cherdded bryniau gwych sydd yn ne Cymru. Mae Penrhyn Gŵyr a Bannau Brycheiniog yn ddau o’n hoff leoedd chwarae a gallwn gynnig teithiau cerdded tywys, cludiant ac opsiynau llety i gerddwyr.
A yw hyn yn addas i fi?
Mae heicio’n addas i’r rhan fwyaf o bobl a gallwn ddarparu sesiynau i gyd-fynd a gallu a phrofiad pawb. Mae ein hyfforddwyr yn meddu ar gymwysterau gan gyrff llywodraethu cenedlaethol ac mae ganddynt gymwysterau cymorth cyntaf i sicrhau diogelwch a mwynhad cyfranogwyr.
Beth bydd ei angen arnaf?
- Trowsus tebyg i dracwisg
- Top cynnes (llewys hir)
- Menig
- Trenyrs neu esgidiau cadarn
- Siaced ddwrglos
- Diod
- Meddyginiaeth, e.e. eli haul, pwmp asthma
- Pecyn cinio (yn ddibynnol ar gynlluniau’r diwrnod)
- Dillad sy’n addas i’r tywydd
- Gwarbac bach neu sach deithio
- Het
Rydym yn darparu
- Yr holl offer cymorth cyntaf a chyfarpar
- Mapiau a chwmpawdau
- Arweinyddion bryniau a mynyddoedd
- Gyrwyr bysus mini
A allaf gael mwy nag un sesiwn?
Gallwch. Gallech drefnu bloc o 4 sesiwn a fydd yn eich galluogi i brofi amrywiaeth o lwybrau a chymryd rhan wrth arwain rhai o’ch sesiynau olaf (mae’r pris fesul gwers yn gostwng i £40 pan fyddwch yn prynu 4).
This post is also available in: English (English)