Mae lle i 40 o bobl gysgu yma a cheir cymysgedd o ystafelloedd cysgu i amryw bobl, ystafelloedd â pâr o welyau ac ystafelloedd sengl. Mae Tŷ’r Borfa’n lleoliad perffaith i grwpiau ac mae mewn lleoliad adnabyddus sef ar lan y môr ym Mhorth Einon.
Saif y tŷ ar diroedd sy’n ymylu ar y twyni tywod a’r traeth ac mae ganddo ardd fawr gyda meinciau picnic. Ceir ystafell fawr amlweithgaredd, ystafell fwyta, ystafell sychu a chegin at ddefnydd preswylwyr, yn ogystal â mynediad at Wifi.
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:
- Gardd gefn fawr
- Patio allanol
- Lle i 40 o bobl gysgu yno (cymysgedd o bynciau ac ystafelloedd sengl)
- Setiau teledu clyfar
- Cyfleusterau cynadledda
- Parcio
- Wifi/ystafell sychu/cawod allanol
- Mae opsiynau hunanarlwyo/llety cyflawn ar gael
- Darperir yr holl ddillad gwely
- Darperir yr holl gyfarpar ac offer coginio
- Darperir yr holl fagiau gwastraff a biniau
- Cyfleuster diogel a larwm
Prisiau
Porth Einon
Mae Porth Einon yn cynnig traeth Baner Las sy’n addas i deuluoedd.
Ym mhen pellaf Bae Porth Einon mae adfail 18fed ganrif yr hen Dŷ Halen a oedd yn echdynnu halen o’r môr yn wreiddiol, er y credir y cynhelid y busnes hwn i gelu’r ffaith bod nwyddau’n cael eu smyglo.
Heibio’r penrhyn, byddwch yn dod o hyd i Dwll Culver, Ogof Pen-y-fái (Pafiland) a llwybr yr arfordir sy’n dod i ben yn Rhosili.
Llawn siopau, caffis a pharlyrau hufen iâ, heb sôn am byllau trai a chlogwyni, mae rhywbeth at ddant pawb sy’n ymweld a Phorth Einon. Mwy o wybodaeth am Dŷ’r Borfa.
This post is also available in: English (English)